Yn yr adran hon
Angen siarad â rhywun nawr?
- Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim
Galwch 08001 225 6653 - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
- Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
- Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl
Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi
18. Ni allaf gael lle i fy mhlentyn yn yr ysgol a ddymunaf. Beth allaf i ei wneud?
Eich hawliau wrth ddewis ysgol i'ch plentyn.
Mae gennych yr hawl i ddewis i ba ysgol wladol yn eich ardal y dymunwch anfon eich plentyn. Fodd bynnag, os yw'r ysgol honno'n llawn neu nad yw'ch plentyn yn bodloni ei gofynion mynediad, fe all y cewch eich gwrthod. Efallai y cewch broblemau os yw'ch plentyn wedi ei wahardd o'i ysgol flaenorol ddwywaith neu ragor.
Os bydd nifer y plant sy'n ceisio am le yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael yn yr ysgol o'ch dewis, yna bydd yr ysgol yn gweithredu set o reolau gordanysgrifiad' i benderfynu i bwy y cynigir lle. Dylai'r ysgol ddweud wrthych beth yw'r rheolau hyn - fe'u ceir yn aml ym mhrosbectws yr ysgol.
Os gwrthodir lle i'ch plentyn, gallwch', fel rheol, apelio i banel annibynnol. Dylai'r ysgol neu'r awdurdod lleol ysgrifennu atoch i ddweud wrthych:
- pam na chafodd eich plentyn le yn yr ysgol o'ch dewis;
- sut i apelio; a
- faint o amser sydd gennych i apelio.
Fe apeliwch trwy ysgrifennu at yr awdurdod lleol (neu gorff llywodraethol yr ysgol, os nad yw'r ysgol yn ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth), yn egluro pam bod angen i'ch plentyn fynychu'r ysgol a ddewiswyd gennych. Dywedir wrthych wedyn pa bryd y bydd gwrandawiad, lle y gellwch gyflwyno'ch achos.
Os oes angen cymorth arnoch i gael eich plentyn i'r ysgol o'ch dewis, neu unrhyw wedd arall ar addysg, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n ymgynghorwyr addysg ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.